Rydym yn cynnig dau fath o sesiwn preswyl ym Mraich Goch – Enciliadau Lloches ac Arosiadau Strwythuredig.



Enciliadau lloches
Enciliadau Lloches – I lawer ohonom mae’r profiad o geisio lloches neu hyd yn oed gael statws ffoadur yn gallu bod yn drawmatig; yr oriau hir o gyfweliadau lle’r holir yr un cwestiynau mewn nifer o wahanol ffyrdd, y teimlad nad yw’r swyddogion yn eich credu, y frwydr gyson o orfod adrodd eich stori drosodd a throsodd i nifer o bobl nad ydynt am eich credu ac sy’n ceisio eich dal chi allan a’ch galw’n gelwyddgi. Mae hyn oll yn niweidiol i’n cyflwr meddwl, yn creu dryswch a theimlad o unigedd.
Mae Ymddiriedolaeth Anne Matthews yn sefydliad o bobl o gefndiroedd ffoadurol a mudol yn bennaf sy’n deall ac sydd wedi bod trwy, neu yn mynd trwy, y profiad o geisio Lloches. Dyma pam yr ydym am gynnig ein canolfan a’n harbenigedd i bobl (gyda’r pwyslais ar oedolion ifanc) sydd hefyd yn mynd trwy, neu wedi bod trwy, y profiad hwn.
Yng nghanolfan Braich Goch gallwn gynnig preswyliadau ar gyfer grwpiau o hyd at 20 o bobl. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys cerdded y mynyddoedd a’r dyffrynnoedd hardd gerllaw, nofio mewn afonydd a llynnoedd, ac archwilio arfordir bendigedig Parc Cenedlaethol Eryri.
Yn ystod ein preswyliadau rydym yn coginio, bwyta, dawnsio, canu a chreu cerddoriaeth gyda’n gilydd – yn adennill ein dyngarwch a’n parch, yn dathlu ein gwahaniaethau ac yn dysgu oddi wrth ein gilydd.
Arosiadau strwythuredig
Fel arall gall grwpiau gymryd rhan mewn sesiynau mwy strwythuredig, lle rydym yn defnyddio addysgeg feirniadol megis Ymchwil Gweithredu Cyfranogol i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn dysgu er mwyn sicrhau cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol.
Mae gennym brofiad hir o drefnu a hwyluso cyrsiau a gweithdai ar amrywiaeth o bynciau megis addysg boblogaidd, rhyw, theatr y gorthrymedig, ymchwil gweithredu cyfranogol a llawer mwy.
Rydym yn croesawu unigolion a grwpiau cymunedol i gymryd rhan mewn sesiynau preswyl dwys i arbrofi gyda theatr a chyfryngau celf cysylltiedig eraill, i siarad â’i gilydd a meddwl gyda’i gilydd, gan weithio ar lefel unigol ond hefyd fel grŵp. Mae’r preswyliadau hyn yn amrywio o ran hyd a chynnwys yn unol ag argaeledd, anghenion ac adnoddau pob cymuned.
Pan fyddant yma mae pobl yn treulio’u hamser yn byw gyda’i gilydd: yn coginio, yn bwyta ac yn gofalu am ei gilydd. Rydym yn defnyddio’r ardaloedd o amgylch i’n hysgogi i greu; trefnir teithiau cerdded trwy gefn gwlad a phentrefi lleol. Dysgwn am hanesion yr ardal leol ac am ei phobl.
Gallwn deilwra sesiynau preswyl yn ôl anghenion y grwpiau sy’n ymweld â ni, felly cysylltwch gan nodi eich anghenion neu’ch syniadau!



Cysylltu â ni
Braich Goch Inn a Bunkhouse, Corris,
Machynlleth, Wales, SY20 9RD
info@theannematthewstrust.org
01654701632

A ydych chi’n dymuno gwneud cyfraniad rheolaidd?
Cysylltwch a byddwn yn trefnu hyn i chi, a thrwy ei wneud fel hyn, byddwn ni yn cael budd llawn o’ch rhoddion ac ni fydd unrhyw beth yn mynd i gorfforaethau mawr.


