Ein nod yw rhannu’r hyn yr ydym wedi’i ddysgu o’r daith yr ydym wedi bod arni a’r sgiliau yr ydym wedi’u meithrin dros y blynyddoedd er mwyn cael effaith grychdonnol ar draws cenedlaethau yn y DU.
Trwy ein gwaith Meithrin Gallu, rydym yn cynnig lleoedd i unigolion a sefydliadau feithrin neu adfer eu hyder, a datblygu eu sgiliau ar gyfer newid trawsffurfiol, ar sail eu talentau a’r hyn y maent yn teimlo’n angerddol amdano.
Sut ydym yn gwneud hyn? Mae ein hinterniaethau , rhaglenni mewnol, sesiynau hyfforddiant untro a gwaith ymgynghori.
Nod ein gwaith Meithrin Gallu yw creu rhwydwaith o bobl wedi’u hyfforddi i weithio yma ym Mraich Goch, yn ogystal ag yn eu sefydliadau eu hunain yn y DU neu’n Rhyngwladol.
Bydd pobl sy’n ymuno â ni ar y teithiau hyn yn meithrin perthnasoedd gyda ni a gyda’i gilydd, sy’n cryfhau ein hymddiriedaeth, ein rhyngddibyniaeth a’n grym ar lefel llawr gwlad.
Mae incwm a gaiff ei greu o’n gwaith hyfforddiant ac ymgynghori yn golygu ein bod yn gallu rhannu ein gwybodaeth gyda phobl a sefydliadau nad ydynt yn gallu talu.
Os hoffech gysylltu â ni ynghylch archebu rhywfaint o hyfforddiant neu waith ymgynghori, neu i ymuno â’n rhaglenni mewnol neu’n hinterneiaeth, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r dudalen gyswllt.
Ein Hinterniaethau
Ar gyfer oedolion ifanc sy’n aros am loches yng Nghymru ac y mae’r gyfraith yn eu gwahardd rhag manteisio ar addysg neu gyflogaeth. Mae ein hinterniaethau wedi’u teilwra i ganlyn sgiliau, angerdd a diddordebau pob intern, ac maent yn cynnwys y dewis o gael hyfforddiant mewn: tyfu bwyd, rheoli digwyddiadau, gwaith bar, cynnal, hwyluso, arlwyo a hyfforddiant achrededig mewn bwyd a hylendid.

Ein Rhaglenni Mewnol
Yn brofiadau addysg poblogaidd a gynhelir gan ein tîm, ar gyfer pobl y byddwn yn eu gwahodd i ymuno â ni. Fel enghreifftiau o hyn, mae gennym Walking the Walk (blwyddyn o gynnull meddyliau er mwyn ail-ddychmygu ein ffyrdd o fod a ffyrdd o wneud gwaith yn y gymuned) a Getaway Training (blwyddyn o hyfforddiant mewn cynnal preswyliadau, i arweinwyr ifanc sy’n gweithio yn eu cymunedau.)

Ein sesiynau Hyfforddiant Untro
Gellir archebu aelodau o’n tîm i rannu eu harbenigedd yn ystod gweithdai untro am ein methodoleg, er enghraifft Ymchwil mewn Gweithredu Cyfranogol, Theatr / Theatr y Gorthrymedig neu Agroecoleg.

Our consultaEin Gwaith Ymgynghorincy
Rydym yn cynnig gweithdai datblygu arweinyddiaeth pwrpasol dros y tymor hwy i sefydliadau hen a newydd, yn y DU ac mewn gwledydd tramor. Fel arfer, bydd hwn yn gyfuniad o sesiyau ar-lein a rhai preswyl, sy’n cynnwys hyfforddiant am ein dulliau, a chan gynorthwyo sefydliadau gyda pha bynnag anghenion sydd ganddynt yn yr eiliad honno

Cysylltu â ni
Braich Goch Inn a Bunkhouse, Corris,
Machynlleth, Wales, SY20 9RD
info@theannematthewstrust.org
01654701632

A ydych chi’n dymuno gwneud cyfraniad rheolaidd?
Cysylltwch a byddwn yn trefnu hyn i chi, a thrwy ei wneud fel hyn, byddwn ni yn cael budd llawn o’ch rhoddion ac ni fydd unrhyw beth yn mynd i gorfforaethau mawr.


