sut wnaethon ni ei wneud?

Stori gefndir Gwesty a Byncws Braich Goch ac Ymddiriedolaeth Anne Matthews

Mae pobl yn aml yn gofyn pwy oedd Anne Matthews!​

Roedd Ros Norton ac Anne Matthews yn bartneriaid oes; y ddwy yn weithwyr cymunedol ymroddedig, egnïol, ffeministaidd a gwrth-hiliol a oedd yn teimlo’n ddig ynghylch anghyfiawnderau ein cymdeithas ac yn ddiysgog eu hymroddiad i’r frwydr dros gyfiawnder cymdeithasol. Nid gwaith yn unig oedd hyn iddynt ond hanfod y ffordd yr oeddynt yn byw eu bywydau. Rhoddodd y ddwy eu holl amser ac egni i weithio gyda phobl a chymunedau, ac roedd y ddwy yn hynod fedrus ac ysbrydoledig.

Yn dilyn gyrfa hir mewn gwaith cymunedol ac ieuenctid, aeth Ros Norton ati i sefydlu RefugeeYouth (elusen sy’n dal i fodoli heddiw). Datblygodd hwn yn sefydliad cenedlaethol gweithgar iawn gydag arweinyddiaeth ieuenctid yn graidd iddo. Yn dilyn 16 mlynedd o ymwneud â’r gwaith hwn, datblygodd rhwydwaith gadarn ac amrywiol o arweinwyr cymunedol ifanc o gefndiroedd ffoadurol a mudol. Gyda’i gilydd maent yn gweithio i fynd i’r afael â’r materion sy’n effeithio ar eu cymunedau ac yn gweithredu i sicrhau newid.

Cafodd ​Anne Matthews yrfa hir ac ysbrydoledig mewn gwleidyddiaeth leol a thai cymdeithasol. Yn fwy diweddar bu’n gweithio fel Cyfarwyddwr Cyfleoedd Newydd Cymdeithas Dai HARCA ym Mhoplar.

​Yn dilyn brwydr hir yn erbyn canser, yn drist iawn bu Anne farw yn 2008. Ar yr adeg honno, gadawodd Ros ei swydd fel Swyddog Datblygu RefugeeYouth ond parhaodd weithio fel gwirfoddolwr.

​Roedd profiadau preswyl yng nghefn gwlad yn allweddol i waith RefugeeYouth, gan ddarparu ffyrdd trawsnewidiol i bobl ifanc ddod at ei gilydd, adeiladu a chryfhau perthnasau, datblygu galluoedd a rhwydweithiau cymorth, ymchwilio i’w profiadau a chynllunio i gydweithredu, gan ddefnyddio modelau ‘cyfoedion i gyfoedion’ a ‘chyfranogol’ i sicrhau newid.

Esblygodd breuddwyd ​ar y cyd i ddatblygu a rhedeg canolfan breswyl lle y gellir cynnal prosiectau a rhaglenni parhaus ar gyfer a chan bobl ifanc o gefndiroedd ffoadurol a mudol a’u grwpiau a’u cymunedau.

​Rhwng 2010 a 2014 rhoddodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ddefnydd Bransdale Mill, melin ddŵr 200 mlwydd oed ar Rostir Gogledd Swydd Efrog, i RefugeeYouth. Gadawodd Ros ei chartref yn Llundain a symud i Swydd Efrog i arwain y prosiect hwn fel gwirfoddolwr. Gweithiodd tîm o rwydwaith RefugeeYouth gyda’i gilydd i redeg Bransdale Mill, gan groesawu grwpiau ac unigolion o bob rhan o’r DU. Roeddynt yn rhedeg rhaglenni creadigol, prosiectau cadwraeth mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cynnig lle i grwpiau drefnu a meithrin gallu. Arweiniodd hyn yn ei dro at ddatblygu grwpiau a phrosiectau cymunedol newydd yn Leeds, Birmingham, Llundain, Middlesbrough a Hull.

​Ar ôl cymryd peth amser i ddysgu o’r profiadau hynny, penderfynodd Ros, ynghyd â’i chydweithwyr Javier Sanchez, Maria De La Pava, Yosola Olajoye a Cedoux Kadima, a oedd i gyd yn rhan o waith RefugeeYouth a Bransdale Mill dros y 16 mlynedd blaenorol, droi’r freuddwyd gyfunol yn realiti, a datblygu canolfan breswyl.

Gwerthodd ​Ros ei fflat yn Llundain ac edrych am eiddo addas, ac yn 2017 prynodd Westy a Byncws Braich Goch (Braich Goch).

​Sefydlodd Ros, Javier, Maria, Yosola a Cedoux Gwmni Buddiannau Cymunedol, sef Braich Goch Red Arm CIC (“BGRA CBC”) i arbrofi gyda rhedeg prosiectau a rhaglenni ac i gynnig lle i bobl ifanc o gefndiroedd ffoadurol a mudol.

Ym mis Mawrth 2018 cafodd Ros ei deiagnosio â math hynod ymosodol o ganser ac, yn drist iawn, bu farw ym mis Mehefin o’r flwyddyn honno. Roedd ei marwolaeth yn sydyn ac yn sioc fawr i’w theulu, ei ffrindiau a’i chymuned.

​Pan ddeallodd Ros ei bod yn marw, penderfynodd drosglwyddo perchnogaeth Braich Goch i elusen a fyddai’n ei ddiogelu yn yr hir dymor fel adnodd i bobl oedd yn byw mewn amgylchiadau difreintiedig, a nododd hyn yn ei hewyllys.

Dymuniad ​Ros oedd bod yr elusen yn cael ei henwi ar ôl Anne Matthews. Dewisodd 6 o bobl fel ymddiriedolwyr cyntaf yr elusen; Lawrence Norton, Sarah Colley, Salwa Chowdhury, Peter Mwangi, Jasber Singh a Lucy Pearson a oedd i gyd wedi gweithio ochr yn ochr â Ros yn RefugeeYouth ac yn Bransdale Mill dros y blynyddoedd.

Social Share Buttons and Icons powered by Ultimatelysocial