Mae gennym 23 o welyau wedi’u rhannu ar draws 6 ystafell, gan gynnwys un ystafell ddwbl. Mae rhan fwyaf yr ystafelloedd yn cynnwys ystafell ymolchi (ac eithrio un, ond mae’r olygfa anhygoel ar draws y cwm o ffenestr yr ystafell honno yn gwneud iawn am hynny!). Byddwn yn darparu’r holl ddillad gwely y bydd ei angen arnoch, ond a fyddech gystal â dod â’ch tywelion personol eich hun.
Rydym yn llety hunanarlwyo sy’n cynnig cegin fasnachol gyflawn sydd wedi sicrhau gradd 5 seren am hylendid, ystafell fwyta fawr sy’n cynnwys 21 sedd, a lolfa gyffyrddus sy’n cynnwys stôf llosgi pren. Mae gennym safle er mwyn cynnal gweithdai / digwyddiadau hefyd (sy’n gallu eistedd 70 neu gynnig lle i 150 ar eu traed), gyda’r dewis o fanteisio ar far trwyddedig llawn.
Prisiau 2025
Rydym yn sefydliad nid-er-elw, a chaiff ein prisiau eu cyfrifo er mwyn sicrhau y byddwn yn talu ein costau. Bydd unrhyw beth dros ben yn ariannu ein rhaglenni, gan gynnig profiadau noddfa i bobl sy’n dod o gefndir ffoaduriaid a mudwyr.
Unigolion / Grwpiau Bychain:
- Rydym yn codi £32 y pen y noson yn adeilad Braich am wely bync mewn ystafell a rennir.
- Mae gennym un ystafell ddwbl sy’n cynnwys ystafell ymolchi a rennir, sy’n £45 y noson.


Archebu’r Byncws Cyfan
I logi’r byncws cyfan, gan gynnwys yr holl ystafelloedd gwely, y gegin a’r ardaloedd cymunol, y gost yw £830 y noson.
Gallwn gynnig dewisiadau graddfa symudol ar gyfer grwpiau o gefndir ffoaduriaid a mudwyr, neu os nad yw eich sefydliad yn cael fawr iawn o arian neu ddim arian o gwbl. Peidiwch â gadael i arian eich rhwystro rhag ymweld, ffoniwch ni!
Llogi’r Lleoliad
Mae ein ffioedd yn seiliedig ar sicrhau y telir ein costau, fel nad ydym yn gwario cronfeydd elusennol. Ar ôl talu’r ffi hon, mae croeso i chi gadw unrhyw incwm a wneir yn ystod eich digwyddiad, a bydd unrhyw arian a wneir o’r bar yn cael ei ddefnyddio i ariannu ein prosiectau a’n rhaglenni:
- Cyfradd y Dydd ar gyfer y Lleoliad: £77 – Mae hyn yn cynnwys cost 1 basged o bren ar gyfer y llosgwr pren, a byddwn yn codi £10 y fasged ar ôl hyn
- Cyfradd y Noson am Logi’r Bar: £132 – Mae hyn yn cynnwys aelod o staff i weithio yn y bar nes y bydd yn cau am hanner nos.
- Llogi’r Gegin – £55 – Mae’r ffi hon yn cynnwys gorbenion nwy a thrydan.
Gofynnwn i’r holl rai sy’n llogi’r lleoliad i adael y lleoliad yn yr un cyflwr ag y cawsoch ef, er mwyn osgoi ffioedd glanhau pellach.
Hygyrchedd a maes parcio
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar ddarparu’r cyfleusterau angenrheidiol ar gyfer hygyrchedd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, pobl â nam ar eu clyw a/neu gyflyrau eraill sy’n lleihau synhwyrau/symudedd. Ar hyn o bryd, dim ond rampiau sydd gennym y tu allan i fynedfa’r bar i fynd i mewn i’n hadeilad. Fodd bynnag, ein nod yw adnewyddu’r ardaloedd bar a daear sero gyda thoiledau hygyrch i bobl anabl a systemau dolen glyw.
Mae maes parcio gyferbyn â’r adeilad gyda lle i 6 i 8 o gerbydau modur.

Argaeledd – archebwch yma
A warm, friendly, radical heart!
I’ve waited a lifetime for a space like this to exist in Wales, one that is warm, friendly, with a radical heart. It’s a place to escape, dream, connect with nature and with each other. The conversation is always rich, and there’s space to breathe & be yourself. The perfect location for groups to collaborate, make theatre, or dream in away days. Bonus is all the income made from the accommodation is then fed back into the incredible work they do in social justice & activism.
Fierce Love!
Much fierce love! Sooo much love and thanks for creating space for us all to find one another after the lockdowns, to rebuild community and fill our minds, bodies and spirits with delish food, beautiful music and much-missed connection xxx
So welcoming
What a gem, amazing place, so well set up, comfortable, spotlessly clean and lovely warm welcome. Would love to have stayed more than a night …. Will be back for more!!! Thank you!!!
Home away from home💙
Thank you to Javi, Akhera, (and Maria) for another absolutely beautiful, rejuvenating, healing time away from the city. Feeling incredible lucky and blessed after the trip. Wonderful teachers, healers and friends. Learned so much and laughed so much. Diolch – until next time! Xx
Healing Place
Had an absolutely amazing time
The team is incredibly welcoming, caring, and supportive, and most importantly, they know how to make everything FUN! It’s such a special place where you feel seen and genuinely cared for. It’s a place to reconnect with yourself and leave with a lighter heart.✨
Cysylltu â ni
Braich Goch Inn a Bunkhouse, Corris,
Machynlleth, Wales, SY20 9RD
info@theannematthewstrust.org
01654701632

A ydych chi’n dymuno gwneud cyfraniad rheolaidd?
Cysylltwch a byddwn yn trefnu hyn i chi, a thrwy ei wneud fel hyn, byddwn ni yn cael budd llawn o’ch rhoddion ac ni fydd unrhyw beth yn mynd i gorfforaethau mawr.


